Lleolir Ysgol Gynradd Aberporth ar arfordir Ceredigion, mewn pentref arfordirol , tua 7 milltir i’r gogledd o Aberteifi a 14 milltir i’r de o Geinewydd. Lleolir yr ysgol yn agos iawn i draeth Aberporth. Ceir golygfeydd godidog o fae Ceredigion o safle’r ysgol.

Fideo Ysgol Gynradd Aberporth

Ysgol Aberporth School Drone Video

 

Ar hyn o bryd, mae oddeutu 138 o blant ar y gofrestr. Prif gyfrwng iaith yr ysgol yw Cymraeg. Cyflwynir Saesneg i ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2. Ein nod yw bod pob disgybl yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt bontio i’r sector Uwchradd.

Mae Canolfan y Don ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig dwys yn rhan annatod o Ysgol Gynradd Aberporth. Mae disgyblion y Ganolfan yn integreiddio i’r brif ffrwd ar gyfer gwersi, sesiynau chwarae, amser cinio a holl weithgareddau’r ysgol.

Mae Ysgol Gynradd Aberporth yn gymuned glos a gofalgar, sy’n sicrhau amgylchedd hapus a diogel i bawb. Mae athrawon a staff yr ysgol yn gydwybodol ac yn gweithio’n ddiwyd a diflino i gynnig traws-doriad o brofiadau gwerthfawr a chyfleoedd helaeth i’r disgyblion.

Mae Ysgol Gynradd Aberporth yn darparu addysg o ansawdd uchel sy’n sicrhau fod pob unigolyn yn cael cyfle cyfartal a mynediad i gwricwlwm eang. Mae’r ysgol yn meithrin sgiliau amrywiol y disgyblion er mwyn iddynt ddatblygu i fod yn ddysgwyr annibynnol, gydol oes.

Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd…