Canolfan Y Don
Mae Canolfan Y Don yn cynnig addysg ar gyfer plant cynradd sydd ag anawsterau addysgol difrifol a phenodol ac awtistiaeth.
Nôd ein canolfan yw i gynnig cwricwlwm eang a chytbwys mewn amgylchedd ofalgar, ac i sicrhau fod pob un yn llwyddo i’w lawn botensial. Ein nod yw i sicrhau fod y plentyn yn ganolog i’r dysgu sydd yn ei alluogi i ddatblygu ei sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu o ddydd i ddydd.
Mae gan Ganolfan Y Don adnoddau arbennig a digon o le i’r disgyblion gyflawni eu potensial dysgu. Mae ein hystafelloedd synhwyraidd yn caniatau i’r disgyblion ddysgu a datblygu mewn amgylchedd ddiogel sy’n mabwysiadu eu hyder a hefyd yn cefnogi ymddygiad cadarnhaol. Mae ein hystafelloedd synhwyraidd hefyd yn gwella symudiad, cydbwysedd ac ymwybyddiaeth gofodol y disgyblion.
Yng Nghanolfan Y Don, credwn fod dysgu yn yr awyr agored yr un mor bwysig â dysgu dan
dô. Rydym yn dysgu yn yr awyr agored yn ddyddiol ac mae gweithgareddau ysgol goedwig yn ffefryn ymhlith y disgyblion. Mae dysgu yn yr awyr agored nid yn unig yn darparu manteision iechyd cadarnhaol, yn gorfforol ac yn feddyliol, mae hefyd yn datblygu ac yn cefnogi sgiliau echddygol manwl a brâs, ac yn hyrwyddo dychymyg a chreadigrwydd.
Rydym yn credu’n gryf mewn cynhwysiant ac yn sicrhau fod dsigyblioin Canolfan Y Don yn cael cyfleoedd dyddiol i ymuno gyda’r disgyblion yn y brif ffrwd i ddatblygu medrau allweddol megis rhyngweithio cymdeithasol, hunanhyder a hunan-barch.
Mae Canolfan Y Don yn le hapus lle mae pob plentyn yn cyflawni ac yn gwneud cynnydd i’w lawn botensial.