Rydym wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd ac i sicrhau bod ganddynt fynediad llawn i addysg. Mae ein trefniadau ar gyfer diwallu anghenion gofal iechyd ein holl ddisgyblion wedi’u cynnwys yn y polisi hwn. Mae’r polisi drafft hwn i fod i gael ei drafod a’i gadarnhau mewn cyfarfod o’r llywodraethwyr ar [rhowch y dyddiad].
Rydym yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion i sicrhau bod ein polisi yn rhoi hyder i ddysgwyr a rhieni bod y ddarpariaeth sydd ar waith yn addas ac yn effeithiol. Os oes gennych unrhyw ddymuniadau neu sylwadau sy’n ymwneud â’r polisi, mae croeso i chi siarad â’r ysgol neu’r awdurdod lleol. Gellir cysylltu â’r awdurdod lleol dros y ffôn ar 01970 633693 neu drwy e-bostio sen@ceredigion.gov.uk.
Gellir cael mynediad at ddogfen arweiniad Llywodraeth Cymru o’r cyfeiriad gwefan canlynol: http://learning.gov.wales/resources/browse-all/supporting-learners-with-healthcare-needs/?skip=1&lang=cy