Dyma wybodaeth am wahanol agweddau o ADY gan yr Awdurdod Addysg Lleol a Llywodraeth Cymru ynghylch y Cod ADY newydd. Mae yna hefyd gwybodaeth am y rhaglenni ymyrraeth rydym ni yn cynnal yn yr ysgol a dolenni at wefannau defnyddiol.

Cofiwch gysylltu â mi yn syth os hoffech drafod unrhyw agwedd o ddatblygiad eich plentyn.

.

Hayley McClelland Class Teacher Dolffiniaid

 

Miss Hayley McClelland
Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol

H.McClelland1@aberporth.ceredigion.sch.uk

 

Dyma wybodaeth am raglenni ymyrraeth sy’n rhedeg yn yr ysgol ar hyn o bryd:

Rhaglenni Ymyrraeth Ysgol Gynradd Aberporth

 

Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Ngheredigion

 

 

Llywodraeth Cymru – Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru

 

 

Dolenni defnyddiol :

Gwefan ADY Cyngor Sir Ceredigion

Gwybodaeth am Awtistiaeth (AwtistiaethCymru.org)

 

Gwybodaeth am ADY gan Lywodraeth Cymru

Beth yw’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) newydd?

 

Y system ADY yw’r system gymorth statudol newydd i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru sydd ag ADY. Bydd yn dod i rym ym mis Medi 2021.

Crëwyd fframwaith deddfwriaethol y system newydd gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘y Ddeddf’), Cod ADY Cymru a’r rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf. Drwy’r fframwaith statudol hwn, nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pob dysgwr sydd ag ADY yn cael cymorth i oresgyn rhwystrau i ddysgu ac yn gallu cyflawni’i botensial, drwy greu:

un fframwaith deddfwriaethol i gefnogi pob plentyn o oedran ysgol gorfodol neu’n iau sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a phobl ifanc sydd ag ADY ac yn yr ysgol neu mewn addysg bellach;

proses integredig a chydweithredol o asesu, cynllunio a monitro’r cymorth a ddarperir i ddysgwyr ag ADY, sy’n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol;

system deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor ac ar gyfer datrys pryderon ac apelau.

Mae’r Ddeddf yn disodli’r termau ‘anghenion addysgol arbennig (AAA)’ ac ‘anawsterau a/neu anghenion dysgu ychwanegol (AAD)’ ac yn cyflwyno’r term newydd ‘anghenion dysgu ychwanegol (ADY)’. Bydd gan bob plentyn a pherson ifanc ag ADY, beth bynnag yw difrifoldeb neu gymhlethdod ei anhawster neu ei anabledd dysgu, hawl i gynllun cymorth statudol a elwir yn ‘Gynllun Datblygu Unigol (CDU)’. Bydd plant a phobl ifanc ag ADY yn cael cymorth a elwir yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) a fydd wedi’i nodi yn eu CDU.

 

Beth yw ADY?

Mae gan ddysgwr ADY os oes ganddo/ganddi anhawster neu anabledd dysgu sy’n gofyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Mae gan blentyn sydd o oedran ysgol gorfodol neu berson sy’n hŷn na’r oedran hwnnw anhawster neu anabledd dysgu:

os yw’n cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na mwyafrif y dysgwyr eraill sydd o’r un oedran, neu

os oes ganddo anabledd, yn ystyr Deddf Cydraddoldeb 2010, sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.

Mae gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol anhawster neu anabledd dysgu os yw ef neu hi yn debygol (neu y byddai’n debygol pe na bai DDdY) o gael cryn dipyn yn fwy o anhawster wrth ddysgu na’r rhan fwyaf o’i gyfoedion/chyfoedion pan fydd yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol.

Mae DDdY i ddysgwr dros 3 oed yn golygu darpariaeth addysg neu hyfforddiant sy’n ychwanegol at, neu’n wahanol i’r ddarpariaeth a wneir yn gyffredinol i ddysgwyr eraill o’r un oedran mewn ysgol brif ffrwd, sefydliad addysg bellach neu leoliad addysg feithrin yng Nghymru. O ran y rheiny dan 3 oed, mae’n golygu darpariaeth addysg o unrhyw fath.

Gall fod gan blentyn neu berson ifanc anhawster neu anabledd dysgu nad yw’n galw am DDdY. Mewn achos felly, ni ystyrir bod gan y plentyn neu’r person ifanc ADY. Mae’n bwysig nodi hefyd na fydd pob anhawster neu anabledd dysgu sy’n deillio o gyflwr meddygol yn galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Un o egwyddorion y Cod ADY drafft yw addysg gynhwysol lle caiff plant a phobl ifanc eu cefnogi i fanteisio’n llawn ar addysg brif ffrwd, lle bynnag y bo’n ymarferol, a lle mae’r lleoliad cyfan yn ceisio diwallu anghenion dysgwyr ag ADY. Lle mae lleoliadau’n mabwysiadu dull gweithredu cwbl gynhwysol ynghyd â darpariaeth ddysgu gyffredinol sy’n diwallu ystod eang o anghenon dysgu, gall hyn helpu i negyddu’r angen am DDdY. Mae’r Cod ADY drafft yn darparu canllawiau ar y broses o asesu a phenderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY.