Llysgenhadon Gwych

Cynllun wrth Gomisiynydd Plant Cymru yw’r Llysgenhadon Gwych sy’n hybu hawliau plant a’r UNCRC mewn ysgolion. Mae Ysgol Aberporth yn Ysgol sy’n Parchu Hawliau UNICEF. Mae eisoes wedi ennill cydnabyddiaeth lefel arian am ein gwaith wrth hybu hawliau plant ac bellach yn gweithredu tuag at lefel aur.

Mae’r plant yn ethol dau Lysgennad Gwych ar ddechrau pob blwyddyn ac mae ganddynt dair swydd. Mae angen iddynt roi gwybodaeth i holl blant yr ysgol am waith a phwerau y Comisiynydd Plant, sicrhau fod disgyblion yn gwybod am hawliau plant o dan yr UNCRC a gwneud tasgau arbennig ar ran y Comisynydd

Llysgenhadon Gwych 2020-21  – Steffan Davies a Scarlette Legg

 

Criw y Porth  – Y Cyngor Ysgol

Grwp o ddisgyblion yw’r Cyngor Ysgol sy’n cael eu hethol i gynrychioli llais yr holl ddisgyblion  ac i feddwl am ffyrdd o wella yr ysgol.  Mae’r cynrychiolwyr yn siarad â’u cyd-ddisgyblion er mwyn cael safbwynt cytbwys o deimladau disgyblion, a throsglwyddo’r negeseuon yma i’r Cyngor Ysgol Lawn. Mae’r Cyngor yn rhoi adborth i ddisgyblion yr ysgol o benderfyniadau’r cyngor trwy wasanaethau ysgol gyfan a fesul dosbarth. Mae hyn yn sicrhau fod pawb yn ymwybodol o waith y cyngor. Yn ystod y flwyddyn, mae’r Cyngor yn trafod a threfnu pob math o weithgareddau, gan gynnwys gweithgareddau codi arian, trefnu gweithgareddau hwyl a llawer mwy

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i fod yn ddiogel, yn hapus ac yn iach ac i ddatblygu eu sgiliau a’u potensial drwy gyfrwng addysg. Mae Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud fod gan blant a phobl ifanc yr hawl i ddweud beth ddylai ddigwydd ac i rywun wrando arnynt.

Criw y Porth 2020-21 yw:

Penrodyn –  Flo & Steffan

Pencartws – Ethan & Hali

Dolwen – Isla & Jace

Dolffiniaid – Rex & Lucy

Bilidowcar – Riley Banks & Jessie

Cranc – Bran & Olivia

Canolfan y Don – Stephen

 

Dewiniaid Digidol

Mae gan bob dosbarth dewiniaid digidol. Gwaith y dewiniaid digidol yw cefnogi datblygiad sgiliau cyfrifiadurol plant ym mhob dosbarth. Mae plant y dosbarth yn dewis y disgyblion yn seiledig ar eu sgiliau. Maen nhw hefyd yn helpu gydag agweddau e-ddiogelwch o fewn yr Ysgol ac yn gweithio i gadw pawb yn ddiogel ar lein. Dyma pwy yw ein dewiniaid digidol eleni:

 

Penrodyn –  Shayden & Flo

Pencartws –  Jeorge & Emily

Dolwen – Tom & Mali

Dolffiniaid – Jonah & Mia

Bilidowcar –  Ben

Cranc – Chloe

Canolfan y Don – James

 

Llys Genhadon Efydd

Mae gennym ddau llys genhad efydd y nein hysgol a’u gwaith yw gwella faint o blant sydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a darparu gweithgaredau chwaraeon hwyl a llawn sport i’r plant amser chwarae. Eu prif nod yw gwella ffitrwydd a mwynhad plant o weithgareddau corfforol. Y ddau blentyn sy’n gwneud y gwaith arebnnig hwn eleni yw:

Elis Richardson a Thomas Bamford