CYNGOR ECO

Mae Criw y Porth wedi cymryd cyfrioldeb am waith Eco ‘Sgolion Ysgol Aberporth bellach. Yn ogystal â disgyblion presennol yr ysgol mae aelodau o staff, rhieni a llywodraethwyr yn aelodau o’r gweithgor Eco ‘Sgolion.

Mae’r Cyngor Eco wedi gwneud Adolygiad Amgylcheddol yn yr ysgol ac wedi paratoi Cynllun Gweithredu ar gyfer y flwyddyn a diweddaru’r Eco Gôd.

Beth yw blaenoraethau’r Cyngor Eco?

  • Lleihau sbwriel yn yr ysgol
  • Lleihau gwastraff ac ailgylchu yn effeithiol
  • Arbed Ynni
  • Annog pawb yn yr ysgol i fwyta’n iach
  • Cynyddu’r nifer o blant sy’n cerdded neu feicio i’r ysgol
  • Datblygu’r ardd

Beth yw’r Eco Gôd?

Mae pawb yn Ysgol Aberporth wedi ymrwymo i gadw at yr Eco Gôd. Mae copi or Côd wedi’i arddangos o amgylch yr ysgol ac ym mhob dosbarth.  Mae’r Côd yn ein hatgoffa ni sut i ymddwyn yn gyfrifol a gofalu am yr amgylchedd.

Cyfarfodydd

Mae Criw y Porth yn cwrdd o leiaf unwaith pob hanner tymor ond mae na gyfnodau pan mae’r Cyngor yn cwrdd yn wythnosol i drefnu gweithgareddau penodol. Mae’r Sgwad Sbwriel a’r sgwad Ynni yn mynd o gwmpas yr ysgol yn wythnosol.

Mae gan yr ysgol ‘Gwobr Eco-sgolion Platinwm’ am waith ac ymrwymiad i brosiectau amgylcheddol ac eco. Mae Ysgol Aberporth yn un o’r ychydig ysgolion yng Nghymru i dderbyn y wobr Platinwm am yr ail dro!  Arbennig!